Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 8
Ionawr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 3.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
(10 munud)
(20 munud)
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
David Rees (Aberafan) Yn dilyn y sylwadau a wnaed gan gadeirydd grŵp Tata Sons, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru ym Mhort Talbot? (TAQ374)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ganslo llawdriniaethau cleifion mewnol ddydd Llun 6 Ionawr 2020 yn ysbytai Bronglais, Glangwili, ysbyty'r Tywysog Philip a Llwynhelyg? (TAQ375)
(5 munud)
(30 munud)
(60 munud)
NDM7221 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
2. Yn cydnabod yr angen i gyflawni, yn ymarferol, dull cydgynhyrchiol o adfywio cymunedol, gyda chyfraniad y gymuned at gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol.
3. Yn cydnabod yr heriau penodol y mae trefi glan môr a threfi marchnad yn eu hwynebu gyda chyfraddau uwch o siopau gwag a lefelau uwch o amddifadedd nag mewn rhannau eraill o Gymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfeydd trefi glan môr a threfi marchnad i gefnogi'r gwaith o adfywio mewn cymunedau ledled Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £800m i adfywio cymunedau a chanol trefi rhwng 2014 a 2022.
2. Yn nodi’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i fusnesau lleol mewn trefi ledled Cymru, gan gynnwys pecyn cynhwysfawr o ryddhad ardrethi annomestig, i roi sylw i eiddo gwag ar y stryd fawr.
3. Yn cydnabod rôl bwysig Ardaloedd Gwella Busnes wrth helpu busnesau a chymunedau i gydweithio i ddarparu atebion ar lawr gwlad a helpu i adfywio eu hardaloedd lleol.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at bolisïau budd-daliadau Llywodraeth y DU, yn enwedig Credyd Cynhwysol, sydd wedi cynyddu tlodi fel y nodwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn Adroddiad y Rapporteur Arbennig ar dlodi eithafol a hawliau dynol.
Yn cydnabod effeithiau niweidiol llymder ar adfywio cymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mentrau cymunedol i wrthdroi ei effeithiau.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyd-ddatblygu'r gwaith o adfywio'r stryd fawr a pholisi trafnidiaeth leol fel ffordd o wella adfywio cymunedol.
(60 munud)
NDM7224 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno taliad o £35 yr wythnos i bob plentyn mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu’r degawd o gyni dan Lywodraeth y DU a’i rhaglen o ddiwygiadau lles, sydd wedi arwain at gynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru.
2. Yn nodi’r mesurau gwerth £1bn y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod yn eu lle i helpu teuluoedd incwm isel a threchu tlodi.
(30 munud)
NDM7194 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cymru Dairieithog: Y gwerth i Gymru o addysgu ieithoedd tramor modern.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Ionawr 2020